Noson o hel atgofion yng nghwmni cyn aelodau ac aelodau presennol y clwb. Bydd yno hog roast, pwdin ac adloniant – llond trol o chwerthin a chanu! Dewch â’ch diodydd eich hunain. Gallwch brynu nwyddau CFfI Rhosybol ar y noson hefyd.
Os bod gennych chi hen luniau o’r Clwb, mae croeso i chi eu hanfon at yr e-bost isod fel ein bod ni’n gallu eu harddangos ar y noson: cffirhosybol@gmail.com. Mae ticedi ar gael yn Siop y Paget neu drwy e-bostio’r Clwb.