Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

11:00, 30 Hydref

£6.50 y plentyn

Ymunwch â’n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru. 

Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau chwilfrydig a’r Cawr Glo barus. 

Wedi’r straeon swyngyfareddol, rhowch gynnig ar greu Map o Chwedlau Gwerin Cymru, gan ddysgu am fôr-forynion drygionus, llyffantod hynafol, baeddod melltigedig a dreigiau, wrth gwrs! 

Addas i oed 3+

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW.