Cinio Dathlu 70 mlynedd er sefydlu Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont a’r Cylch

19:30, 24 Chwefror

£27.50 am bryd 3 chwrs (£20 i blant dan 13 oed). Rhaid sicrhau tocyn o flaen llaw

Mae 2023/4 yn flwyddyn bwysig iawn yn hanes Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont a’r Cylch wrth i ni ddathlu saith deg mlynedd er ei ffurfio. Fe’i sefydlwyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Tal-y-bont ar nos Fercher, 14 Hydref 1953, gyda bron i hanner cant o bobl ifanc yr ardal yn bresennol. Fel pob clwb ry’n ni wedi profi sawl llanw a thrai dros y blynyddoedd, ond mae’n destun balchder ein bod ni’n dal i gwrdd yn wythnosol yn Nhal-y-bont saith degawd yn ddiweddarach, a bod y mudiad yn parhau i gynnig profiadau gwerthfawr i ieuenctid gogledd y sir.

Ar hyn o bryd, mae ’na brysurdeb mawr ymhlith yr aelodau a’r arweinyddion a ninnau’n paratoi’n ddiwyd at ein cinio dathlu mawreddog sydd i’w gynnal ar nos Sadwrn, 24 Chwefror, am 7.30yh, yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth. Bydd yr achlysur hwnnw’n gyfle i ni edrych nôl ar weithgarwch a llwyddiannau’r clwb dros y degawdau ac i hel atgofion yng nghwmni Elen Pen-cwm a chyfeillion eraill. Os am ymuno â ni i ddathlu, gellir archebu tocynnau (£27.50 y pen am bryd tri chwrs) drwy yrru neges destun i 07954 127251 cyn y dyddiad cau ar 19 Chwefror.

Ond peidiwch â phoeni os na fedrwch ddod! Bydd modd i chi ddilyn yr hanes ar ein tudalen facebook ‘C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch: Dathliad 70’ lle byddwn yn rhannu hen luniau a lle bydd cyfle i chithau gyfrannu’ch atgofion personol.