Bydd Cleif Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis, yn perfformio casgliad o ganeuon mwyaf adnabyddus y grwp yng nghwmni’r cyfeilydd a’r cerddor amryddawn Geraint Cynan. Ynghyd â phytiau o’i gyfrol ddiweddar fe fydd ‘na straeon ac atgofion am un o gyfnodau mwyaf cyffrous y byd roc Cymraeg.