Cofio’r Cant/The Hall is a Hundred! yn Neuadd Goffa Cricieth

20 Gorffennaf

Am ddim ond derbynnir unrhyw roddion yn ddiolchgar

I ddathlu canmlwyddiant agoriad y Neuadd, sioe ddwyieithog arbennig gan Gwyneth Glyn a Twm Morys, wedi ei chyfarwyddo gan Ben Rosen a’i  pherfformio gan bobl a phlant yr ardal yn adrodd hynt a helynt y Neuadd fesul degawd drwy atgo’ a chân

Bydd dau berfformiad, y naill am 1.30yp a’r llall am 7.00yh.