Ymunwch a ni yn ar ddydd Sadwrn, Ebrill 27 yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, i nodi a dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.
Bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn traddodi darlith ‘Undeb y Chwarelwyr: 1874-2024’ am 1.30yh yn yr Amgueddfa.
Bydd hefyd cyfle i weld dogfennau gwreiddiol yr Undeb sydd fel arfer ar gadw yn Archifdy Caernarfon.
Am 3pm bydd cyfle i ymuno mewn taith gerdded ar hyd y llyn o’r amgueddfa i Graig yr Undeb, gyda baner arbennig i ddathlu hanes yr undeb, wedi ei chreu gan fyfyrwyr a disgyblion o’r ardal, a chyfranogwyr mewn gweithdai cymunedol yn Llanberis a Bethesda.
Traddodir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae tocynnau AM DDIM ond rhaid bwcio ymlaen llaw drwy (01286) 679095 neu ebostio archifau@gwynedd.llyw.cymru.
Digwyddiad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Cyngor Gwynedd / LlechiCymru
Dilynwch y linc yma am fwy o wybodaeth ynglyn â gweithgareddau i ddathlu Penblwydd 150 oed Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru