Dewch draw am bnawn o hwyl a chymdeithasu’n y Caban pnawn dydd sul y 15fed o Ragfyr. Digwyddiad cymunedol i’r teulu neu unrhyw un sydd awydd sgwrs dros baned neu wîn cynnes a mins pei. Bydd bwrdd crefftau i gael creu rhywbeth i fynd adref efo chi a disgo i’r plant (ac unrhyw un sydd awydd symud!). Mae’n ddigwyddiad am ddim ond byddwn yn ddiolchgar o unrhyw gyfraniad ar y diwrnod tuag at Y Caban.
Dewch draw i ymuno’n yr hwyl a chyfle i sgwrsio efo ffrindiau hen a newydd 🌲🌟