Cyfle i wylio perfformiad Creigiau Geirwon gan Gwmni Pendraw (recordiwyd yn Pontio, Bangor yn 2023) ar y sgrîn fawr am un noson yn unig.
Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau mwyaf prin…Dewch i gyfarfod â’r tywyswyr mynydd cynnar a fu’n arwain y botanegwyr a chasglwyr planhigion, y daearegwyr, artistiaid a beirdd ar hyd y llethrau a’r copaon ers 300 mlynedd a mwy.
Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis. Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, a’u profiadau i ddiddanu, bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.Dyma sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau!A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, a beth yw dyfodol y Lili heddiw?
Yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg.
Addas ar gyfer oedran 7+