Creigiau Geirwon – ffilm, cwestiwn ac ateb

8 Mawrth

Creigiau Geirwon – Ar y Sgrin fawr!

Dangosiad o’r Sioe ar y Sgrin fawr ynghyd a sesiwn cwestiwn ac atab gyda’r Cyfarwyddwr Wyn Bowen Harries a’r actor Llyr Evans,

Ffilm o berfformiad bythgofiadwy ym Mhontio llynedd. Dyma sioe sy’n dathlu hanes cyfoethog Eryri trwy ddrama, hiwmor, cerddoriaeth fyw a dawns fertigol!

Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau mwyaf prin…

Dewch i gyfarfod â’r tywyswyr mynydd cynnar a fu’n arwain y botanegwyr a chasglwyr planhigion, y daearegwyr, artistiaid a beirdd ar hyd y llethrau a’r copaon ers 300 mlynedd a mwy.

Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis. Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, a’u profiadau i ddiddanu, bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.

Dyma sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau!A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, a beth yw dyfodol y Lili heddiw?

Yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg.
Addas ar gyfer oedran 7+