Creigiau Geirwon- ffilm

19:00, 29 Chwefror

£6

Recordiadd ar ffilm o sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau er mwyn rhannu hanes tywyswyr mynydd cynnr Eryri!

Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis.

Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, a’u profiadau i ddiddanu, bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.

A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, a beth yw dyfodol y Lili heddiw?

Gwelwyd y sioe yn Pontio, Bangor llynedd ac wedi ei recordio’n fyw gan gwmni SDG.

Hwn oedd trydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cyfuno hanes a gwyddoniaeth mewn ffyrdd creadigol ac annisgwyl, gyda’r actorion Iwan Charles, Llyr Evans a Manon Wilkinson, cerddoriaeth byw gan Patrick Rimes a Casi Wyn, ac am y tro cyntaf, dawns fertigol gan gwmni Kate Lawrence.