Culhwch ac Olwen (Cwmni Mega)

22 Tachwedd

£8

Cwmni Mega yn cyflwyno Culhwch ac Olwen

Mae Culhwch yn caru Olwen er nad ydi o wedi ei gweld hi erioed. Tydi Olwen erioed wedi clywed am Culhwch chwaith ac felly does ganddi ddim syniad bod Culhwch am ei phriodi.

Ond dydy tad Olwen, y cawr blin Ysbyddaden Boncyrs ddim eisiau i Olwen briodi byth. Ond dydy Culhwch ddim yn gwybod hynny ac mae’n dechrau ar ei daith i ddod o hyd i ferch ei freuddwydion.

Er mwyn ennill Olwen ma’ Mr. Boncyrs yn dweud bod rhaid i Culwch wneud ambell ‘i dasg fach fel ymladd draig, dwyn crib y Twrch Trwyth ac yn waeth na dim gwneud dawns y glocsen yn ei drons!

Beth allai fynd o’i le?!

 

Mae Culhwch ac Olwen yn sioe ar gyfer ysgolion a theuluoedd ond wedi’i haddasu’n arbennig ar gyfer plant Blynyddoedd 1 i 7.

Tocynnau: £8 (1 athro am ddim gyda phob 10 disgybl) 1 awr 30 munud (egwyl o 10 munud)

Sioe fore: 10am – Sioe brynhawn: 1pm – Sioe nos: 6pm

Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe.

 

I archebu tocynnau cysylltwch â tocyn@cwmnimega.cymru