Cyfarfod Agored i ddathlu Ysgol Dihewyd

19:30, 21 Mawrth

Bydd Ysgol Dihewyd yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd tymor Nadolig 2024. Dros y blynyddoedd mae’r sefydliad wedi chwarae rhan allweddol yn y gymuned, creu atgofion a chynnig cyfleuoedd arbennig i blant yr adral.

Wrth i ni baratoi at y cyfnod, rydym yn awyddus iawn i wahodd cyn ddisgyblion, cyn-athrawon, aelodau o’r gymuned a ffrindiau’r ysgol i ymuno gyda Llywodraethwyr a staff presennol yr ysgol mewn cyfarfod agored. Bydd hyn yn gyfle i hel atgofion a chael trafodaeth am sut y gallwn nodi hanes yr ysgol a dathlu y garreg filltir arbennig yma.

Cynhelir y cyfarfod ar y 21ain o Fawrth am 7:30 yn Neuadd y Pentref. 

 Dewch yn llu a lledaenwch y neges!