Cyfarfod Cyhoeddus – trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gerlan

16:00, 4 Ionawr 2024

Mi fyddwn ni yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Gerlan, i drafod y sefyllfa trafnidiaeth cyhoeddus yn Gerlan a’r ardal. Mae hyn yn dod yn sgil dysgu y bydd Arriva yn torri’r gwasanaeth i ac o Gerlan gan gychwyn wythnos nesaf yr 8fed o Ionawr 2024.

Rydym yn cynnig cyfle i glywed gan drigolion a chynghorwyr yr ardal am eu pryderon ynglŷn â’r sefyllfa a sut fath o wasanaeth fyddai’r gymuded yn ei ddymuno a’i ddefnyddio yn wirioneddol.
A meddwl am sut efallai y medrwn ni yn Dyffryn Caredig, un o brosiectau Partneriaeth Ogwen, helpu gyda’r sefyllfa drwy ddefnydd ein cerbydau trydanol cymunedol.