Cyflwyniad i Nyddu: O’r Cnu i’r Brethyn

10:30, 19 Hydref

£85 | £70

Ymunwch â Non Mitchell, Crefftwraig yn Amgueddfa Wlân Cymru, am Gyflwyniad i Nyddu Gwlân. 

Bydd y cwrs undydd yn cynnwys didoli, cribo a chyfuno’r gwlân, cyn rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o nyddu, gan ddefnyddio’r gwerthyd a chogail, troellau nyddu a gwehyddu ar wŷdd peg i greu pad clustog bach i fynd adref gyda chi.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.
  • Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
  • Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
  • Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
  • Lleoliad Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
  • Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.