Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen

19:00, 9 Rhagfyr

Cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar nos Lun, Rhagfyr 9fed, am 7 o’r gloch wyneb-yn-wyneb yn Festri Capel Jerusalem a thrwy gyfrwng Zoom. Gweler y manylion ar gyfer cofrestru oddi isod os gwelwch yn dda?

 

Byddwn yn cynnal y Cyfarfod Blynyddol I gychwyn am 7 o’r gloch gyda’r ddarlith yn dilyn am 7.15yh. Amgaeaf y dogfennau canlynol ar gyfer y Cyfarfod:

 

  • Rhaglen
  • Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2023
  • Adroddiad y Trefnydd/Trysorydd
  • Mantolen 2023-24
  • Cyfansoddiad y Gymdeithas Hanes a fydd angen ei chymeradwyo

 

‘Rydym wedi gorfod newid y ddarlith ar gyfer mis Rhagfyr gan nad oedd yn bosibl I Dr Nia Jones ymuno â ni y mis hwn oherwydd amgylchiadau personol. Felly, ‘rydym yn ddiolchgar i Mary Jones am gytuno i gyflwyno sgwrs ar ‘Iaith Pesda’.

Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen

(Darlith wyneb yn wyneb a rhithiol drwy gyfrwng Zoom)

 

Mary Jones yn trafod ‘Iaith Pesda’

 

7.00yh nos Lun Rhagfyr 9fed, 2024

 

Wyneb yn wyneb: Yn Festri Capel Jerusalem, Bethesda. Cofrestrwch gyda garethllwyd197@btinternet.com

 

Rhithiol tros Zoom: Cofrestrwch gyda bethan@ogwen.org

 

Cofrestrwch erbyn 12 o’r gloch dydd Llun, Rhagfyr 9fed, ar yr hwyraf os gwelwch yn dda

 

Tâl aelodaeth 

£10.00 i rai mewn gwaith

£5.00 i bensiynwyr a’r di-waith

Plant ysgol am ddim

Cost darlithoedd unigol = £2.00

 

Y ffioedd i’w talu i gyfrif ‘Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen’ drwy:

BACS: 40-16-02 41386212 Neu drwy arian parod ar y drws.