Cymhorthfa Penrhosgarnedd

13:30, 24 Mai

Am ddim

Mae ‘cymorthfeydd’ yn gyfle i gynrychiolwyr gwleidyddol gyfarfod wyneb yn wyneb â’u hetholwyr i drafod materion a phryderon lleol.

Ac yn fuan bydd yr aelod lleol yn Senedd Cymru yn cynnal un o’i chymorthfeydd rheolaidd ym Mhenrhosgarnedd.

Mae Siân Gwenllian AS wedi gwahodd trigolion lleol i gwrdd â hi a’r cynghorydd lleol i drafod materion yn ymwneud â Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys caniatâd cynllunio.

Er bod Menna Baines yn gynghorydd sir dros ward Y Faenol, mae croeso i drigolion o bob rhan o’r ddinas ddod i drafod eu pryderon.

Bydd y gymhorthfa yn cael ei chynnal ym Mhenrhosgarnedd ar 24 Mai. Am resymau diogelwch ni fydd y lleoliad yn cael ei ddatgelu ymlaen llaw, ond dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.