Uno Cymunedau mewn Cân

19:00, 24 Chwefror

Mynediad trwy gyfraniad (elw at AberAid a Chanolfan Oasis, Caerdydd

Mae Côr Gobaith – côr stryd sy’n canu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd – wedi bod wrthi’n brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi diwrnod o weithgarwch i uno cymunedau mewn cân. Y bwriad yw cynnal digwyddiad sy’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant y gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac i wneud hynny trwy gân gyda’r nod o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth rhwng y grwpiau hyn a’r gymuned leol.

Prosiect cydweithredol gyda Chôr Un Byd Oasis – côr ffoaduriaid o Gaerdydd – yw’r digwyddiad. 

Yn ystod y prynhawn cyn y cyngerdd (1.30, Canolfan St Paul’s), bydd arweinwyr y ddau gôr yn cynnal gweithdy canu gan ddysgu a rhannu caneuon o wahanol ddiwylliannau er mwyn cryfhau’r cyswllt rhwng ein cymunedau a dod i ddeall ein gilydd yn well.

Bydd canlyniadau’r gweithdy i’w clywed yn y cyngerdd yn y nos ynghyd â pherfformiadau gan Gôr Gobaith, Côr Un Byd Oasis ac eraill. Ariennir i diwrnod gan gyllid trwy Raglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Fel y dywed Côr Un Byd Oasis wrth sôn am greu cerddoriaeth ar y cyd: “Caiff rhwystrau a ffiniau eu chwalu mewn modd unigryw ac arbennig iawn. Mae canu yn wirioneddol uno cymunedau.”

Gwybodaeth bellach: corgobaith@gmail.com