Cyngor am Ynni

09:30, 12 Ebrill

Am ddim

Mae nifer fawr o drigolion yng Ngwynedd yn dioddef hefo tlodi tanwydd a ddim yn gwybod lle i droi am gyngor. Mae Prosiect Sero Net Gwynedd, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU, yn galluogi ein Swyddogion Ynni i helpu unigolion a theuluoedd ar draws Gwynedd unai mewn hybiau cymunedol, drwy ymweliad cartref neu drost y ffôn.

Mae Swyddogion Ynni DEG yma i’ch helpu drwy:

-godi ymwybyddiaeth o fanteision arbed ynni
-roi cymorth ymarferol ar leihau costau a defnydd o ynni yn y cartref-roi cyngor i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi-gynhori pa grantiau sydd ar gael
-ddarparu offer arbed ynni (er enghraifft bylbiau LED)
-roi’r cyfle i bawb sydd yn gymwys i ymunno a’r rhestr gwasanaeth a blaenoriaeth gyda’u cyflenwyr dŵr, trydan a nwy.

Bydd swyddogion ynni yn Llyfrgell Caernarfon o 9:30y.b. tan 12:30y.h. ar y dyddiadau canlynol:
-Ebrill 16
-Mai 14
-Mehefin 11

Dewch draw am sgwrs a phanad, ac ewch â phecyn gwybodaeth arbed ynni a bwlb LED adref gyda chi. Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu os hoffech drefnu apwyntiad gyda Swyddog Ynni naill ai dros y ffôn neu yn eich cartref, cysylltwch â ni ar ynni@deg.cymru neu 07495237679.