Cystadleuaeth cyrri i godi pres at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024.
Mae croeso i unrhyw un gofrestru o flaen llaw i gystadlu. Bydd disgwyl ichi greu crochan fawr o gyrri a dod ag o i Feed My Lambs ar y noson.
Chi, bobol Caernarfon fydd yn penderfynu enillydd y gystadleuaeth drwy sgorio pob cyrri, ac mae croeso ichi ddod â’ch diodydd a’ch gwydrau eich hunain!
Mae tocynnau’n £15 ac ar gael ar-lein neu yn Palas Print, Caernarfon.
Bydd rhestr o gynhwysion bob cyrri yn cael ei arddangos ar y noson, a’ch cyfrifoldeb chi yw adnabod unrhyw alergenau. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru i gystadlu, cysylltwch â post@gwylfwydcaernarfon.cymru.