Nos Sadwrn yma bydd Côr Cardi-Gân yn cynnal Cystadleuaeth Côr-tastig yn y Moody Cow yn Llwyncelyn. Her gorawl, ysgafn i godi arian yw’r noson yn arddangos doniau Corau lleol y sir mewn noson hwyliog, llawn sbri. Bydd dau arweinydd profiadol yn llywio’r noson yn eu ffordd arbennig, sef Endaf Griffiths a Cennydd Owen Jones, dybl act go iawn. Bydd hefyd panel o bedwar beirniad adnabyddus, sef Non Davies, Rheolwr Corfforaethol Diwylliant Ceredigion, Iwan John Williams, Actor a Digrifwr, Dan Edwards-Phillips, Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion a Gwawr Davies, Cynrychiolydd o Elusen Canolfan Therapi Ocsigen Aberteifi.
Bydd pump Côr yn arddangos eu doniau, sef Meibion y Mynydd o ardal Ponterwyd, Corisma o ardal Llambed, Bois y Gilfach o ardal Dyffryn Aeron, Merched Soar o ardal Tregaron a Chardi-Gân hefyd o ardal Dyffryn Aeron – oll i gyd yn ymrafael am dlws Côr-tastig 2024.
Mae’r tocynnau ar werth trwy Theatr Felinfach, ond peidiwch a’i gadael tan y funud olaf, maent yn gwerthu’n gyflym – 01570 470697.
Bydd bwyd a bar ar gael yn y Moody Cow felly gwnewch noson ohoni a mynd am swper cynnar cyn cael gwledd gerddorol i gwblhau’r arlwy.
Bydd raffl ar werth wrth y drws a nifer o wobrau hael, diolch i’r busnesau a’r cwmnïau sydd wedi’n cefnogi drwy gyfrannu gwobr a thrwy noddi’r noson arbennig.
Bydd holl elw’r noson yn mynd i elusen ddynodedig y Côr am eleni, sef Canolfan Therapi Ocsigen Aberteifi. Welwn ni chi yno!