Dai

£12 / £8

Drama un cymeriad yw hon sy’n olrhain hanes David Lloyd George, un o Gymry Cymraeg mwyaf dadleuol ein hanes. Dewch gyda ni trwy ddrws rhif 10 Stryd Downing i gyfarfod y Prif Weinidog o Lanstumdwy. Cawn ein tywys trwy ddigwyddiadau mawr ei fywyd a’r dewisiadau a wnaeth ar y daith, gan bwyso a mesur y drwg a’r da. Pa fersiwn o Lloyd George fyddwch chi’n dewis ei gofio?