Darbi’r Fro Llanberis v Llanrug

14:30, 9 Mawrth

Dydd Sadwrn mae Darbi fawr y fro yn cael ei chware. Llanberis yn erbyn Llanrug mewn gêm gynghrair ar Ffordd Padarn, Llanberis.

Mae’r ddau glwb wedi gwynebu ei gilydd yn barod y tymor yma wedi i Lanberis ennill o 3-2 yn Eithin Duon yn Mis Tachwedd. Diwrnod hwnnw roedd Llanrug 2 gôl ar y blaen cyn i Lanberis ddod yn ôl i ennill 3-2.

Mae’r ddau dim yn agos iawn yn y tabl. Llanrug yn 5ed gyda 31 pwynt ac Llanberis yn y 7fed safle gyda 29 pwynt. 

Yn 2024 mae Llanberis wedi chware 6 gêm ym mhob cystadleuaeth gyda phob un ohonynt oddi cartref. O’r 6 gem mae Llanberis wedi ennill 3 ohonynt yn cynnwys gêm yn nghwpan y gynghrair. Ffydd y Darans yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Ffordd Padarn Dydd Sadwrn am y tro cyntaf eleni.

Lawr y ffordd yn Llanrug mae hi wedi bod yn gychwyn da iawn i 2024. Gyda Llanrug wedi ennill pob un o’i 5 gêm y flwyddyn yma, 4 ohonynt yn y gynghrair. Mi fydd Llanrug yn gobeithio parhau a’i record sgorio diweddar. Dwy gêm yn ôlynol mae Prif sgorwyr Brif Adran Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru wedi sgorio 9 gôl. 

Mae’r Gic gyntaf ar Ffordd Padarn Dydd Sadwrn am 2:30 Y.P.