Darlith Edward Lhuyd

17:30, 27 Tachwedd

Am ddim

Yr Athro Paul O’Leary fydd yn traddodi Darlith Edward Lhuyd eleni dan y teitl ‘Yr Apêl at Hanes: y Presennol, y Gorffennol a Mytholeg Gynhaliol Gwleidyddiaeth Cymru’.

Pam fod gwleidyddion blaenllaw yn cyfeirio at hanes mor aml? A pha fath o hanes ydynt yn apelio ato? Bydd y ddarlith hon yn dangos bod gwleidyddion yn mowldio hanes at ddibenion y presennol ac yn gweu mytholegau i gyfreithloni eu safbwyntiau heddiw. Bwriad y ddarlith yw archwilio’r mytholegau hyn mewn ymgais i ddangos sut maen nhw’n effeithio ar ein diwylliant gwleidyddol a’r drafodaeth o hanes yn y pau cyhoeddus. Dangosir sut mae gwleidyddion wedi cynhyrchu mytholegau ar gyfer y Gymru ddatganoledig mewn ymgais i greu fersiwn o’r gorffennol sy’n gweddu i’r ffordd newydd o lywodraethu’r wlad – senedd newydd, hanes newydd.

Mynediad am ddim ond dylid cofrestru yma.

Ceir lluniaeth ysgafn a diod wedi’r ddarlith.