Datganiad ar yr Organ

Am ddim

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 25 Hydref, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o’r 18fed ganrif.

Astudiodd Robin Baggs yr organ gyda Garth Benson, Peter le Huray a Lionel Rogg (Genefa). Darllenodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt, a chwblhaodd astudiaethau ôl-raddedig yno mewn perfformiad allweddellau, palaeograffeg a beirniadaeth. Yn ogystal â’i waith cyngherddau gartref, mae teithiau datganiadau wedi mynd ag ef i ddeuddeg gwlad yn Ewrop, ac o ganlyniad i’w arbenigedd yng ngherddoriaeth organ Swabia ac Awstria yn y ddeunawfed ganrif, cynhaliodd gyngherddau blynyddol yno am fwy na degawd. Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth yn rôl awdur a beirniad i’r Musical Times a chyhoeddiadau eraill, ac ar hyn o bryd mae’n Gyfeilydd i nifer o Gymdeithasau Corawl yn Swydd Gaerloyw a Swydd Rydychen. Yn dilyn 35 mlynedd o fod yn Organydd ac yna’n Gyfarwyddwr Cerdd Ysgol Westonbirt, mae Robin bellach yn rhannu ei amser rhwng addysgu preifat, cyfeilio a gwaith cyngherddau.