Mae Ysgol Gynradd Dihewyd yn cynnal digwyddiad er mwyn dathlu ei bodolaeth cyn iddi gau’r drysau am y tro olaf adeg y Nadolig.
Ble – Neuadd Bentref Dihewyd
Dyddiad – 5ed o Hydref
Amser – 5.30 tan hwyr
Mynediad yn £5 (Plant cynradd am ddim).
Byddwn yn dechrau gyda gweithgareddau hwyliog i’r plant dan ofal medrus Lleucu Ifans, Actifiti. Yn ogystal bydd Lleucu yn darparu ‘Disgo Tawel’ a fydd yn gryn dipyn o sbort!
Yna gallwn edrych ymlaen at gerddoriaeth byw gan y band poblogaidd Cymraeg, Baldande! Bydd y band yn chwarae amrywiaeth o ganeuon Cymraeg a Saesneg.
Bydd amrywiaeth o fwyd blasus ar gael gan gwmni bwyd lleol, sef Manuka ac mae croeso i chi ddod â diod eich hun.
Bydd raffl ar werth ar y noson.
Mae’n argoeli i fod yn noson arbennig i’r teulu cyfan. Dewch yn llu!