Guy Davis

20:00, 26 Hydref

£20 / £18

Mae’r aml-offerynnwr Guy Davies wedi cael ei enwebu am Grammy ddwywaith yn olynol am y Best Traditional Blues, mae’n gerddor, actor, awdur, ysgrifennwr caneuon, cymaint mwy na dim ond ‘bluesman’, trwbadŵr y traddodiad gwerin, a meistr ar ei grefft.

Mae Guy yn defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth Gwreiddiau, Blues, Gwerin, Roc, Rap, Gair Llafar, a Cherddoriaeth y Byd i roi sylwadau a mynd i’r afael â rhwystredigaethau anghyfiawnder cymdeithasol, cyffwrdd â digwyddiadau hanesyddol, a brwydrau bywyd cyffredin.

Yr un mor gartrefol gyda gitâr chwech neu ddeuddeg tant, banjo pum tant, harmonica, a hyd yn oed y dijeridŵ, mae gwaith Guy wedi ei weld yn perfformio ochr yn ochr â Pete Seeger, Bruce Springsteen, Dr John, Taj Mahal a Joss Stone, yn agor i Chuck Berry, Joan Armatrading, a BB King, ac yn perfformio ledled y byd. Anturiaethau a welodd ef unwaith yn cael ei erlid allan o’r Sgwâr Coch ym Moscow am geisio canu, perfformio yn Nwyrain Berlin a oedd wedi’i feddiannu gan yr Undeb Sofietaidd ar y pryd, ac o flaen mynydd iâ yn yr Ynys Las!

Mae ei sioeau yn cynnwys cymysgedd o’i ddeunydd gwreiddiol ei hun ochr yn ochr â fersiynau o glasuron gan enwogion fel Muddy Water, Howlin’ Wolf, a Bob Dylan.

Mae Guy yn wych! Mae heb ei debyg! Yn ddiddorol, mae’n fab i actorion Americanaidd ac ymgyrchwyr hawliau sifil, Ossie Davis a Ruby Dee, ac mae hefyd yn actor ei hun ar ôl chwarae’r brif ran yn Beat Street (1984), a gyflwynodd Ewrop ar ei ben ei hun bron i frecddawnsio a hip-hop.