Dawns y Ceirw

13:10, 6 Rhagfyr

£5

Cyd-gynhyrchiad gaeafol newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

gan Casi Wyn

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel…

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

 

Hyd y perfformiad: 35 munud

Drysau: 13:10, Sioe: 13:30

 

Perfformiadau ysgolion:

  • tocyn ysgolion / meithrinfeydd: £5
  • 1 tocyn am ddim am bob 10 tocyn a brynir (hyd at 4 gwaith)
  • Cysylltwch â post@theatrderekwilliams.cymru am ragor o fanylion