Dawns y Ceirw | Theatr Genedlaethol Cymru

13:30, 26 Tachwedd

£8 | £6

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel…

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Addas i blant 5+