Yn dilyn llwyddiant ysgubol llynedd ymunwch a rai o aelodau Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wrth iddynt ail-ymweld a rhai o ganeuon gwefreiddiol y sioe roc drydanol Deffro’r Gwanwyn. Dyma sioe gyntaf y cwmni wedi ail-lansio llynedd yn Theatr y Werin Aberystwyth. Dyma bortread eofn a gonest o wewyr a gorfoledd bod yn dy arddegau ble mae emosiwn a hormonau’n rhemp a phawb yn teimlo popeth i’r byw. Dyma addasiad arbennig Daf James o’r sioe gerdd Spring Awakening a agoroedd yn Broadway yn 2006 ac a gynhyrchwyd gyntaf yn y Gymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.