Mae gen ti Ddreigiau / You’ve Got Dragons

10:30, 22 Mehefin – 27 Mehefin

£8 i bawb. Tocyn Teulu: £28 (i 4)

Gan Kathry Cave a Nick Maland
Addasiad gan Mannon Steffan Ros

Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”

Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?

Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.

Sioe i bob cenhedlaeth, yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”