Degawd o Lwyddiant: Buddsoddiad Cymunedol Antur Stiniog yn dod ag Deng Mlynedd o Dwf Cymunedol yng Nghalon Blaenau Ffestiniog.
Cafodd cwmni cymunedol Antur Stiniog fenthyciad 10 mlynedd yn ôl i brynu unedau ar y sgwâr ym Mlaenau Ffestiniog er mwyn sicrhau’r unedau i’r gymuned leol. Ar hyd y blynyddoedd mae’r unedau wedi bod yn gartref i lawer o fusnesau a hefyd lleoliad eu swyddfeydd. Bellach mae siop pysgod a sglodion llwyddiannus a hefyd Tŷ Coffi Antur.
Dyma lle bydd ein digwyddiad yn cael ei gynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi, fel rhan o’r dathliadau mae’r hynod dalentog Catrin O’Neill, Danielle Clarke a Meinir Gwilym yno i’n diddanu. Bydd y caffi ar agor fel arfer gyda llwyth o ddanteithion cartref ffres.
Mae’r digwyddiad am ddim felly dewch i ddathlu gyda ni ar 1af o Fawrth rhwng 10:30yb a 2:30yp.