Delwyn Siôn – Sesiwn Nos Wener

20:00, 23 Chwefror

£7.00

Rydym yn falch iawn i groesawu DELWYN SIÔN eto i Dalybont. Does dim angen cyflwyno ffigwr a fu mor ddylanwadol o’r saithdegau ymlaen fel canwr, cyfansoddwr ac unawdydd. Mae yna ryw rin arbennig, hiraethus i’w lais ac i’w ganeuon fel sy’n adnabyddus i holl ffans y grŵp Hergest. Cadwch nos Wener, 23 Chwefror yn wag ar gyfer noson o fwynhad pur am bris rhesymol!