Dewch i Drochi Dros Dewi

10:00, 2 Mawrth

Yda chi eisiau gwneud rhywbeth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni? Mae criw o nofwyr gwyllt o’r ardal yn nofio yn Afon Ogwen yn rheolaidd. Da ni’n dod at ein gilydd yn un grŵp mawr ychydig o weithiau’r flwyddyn megis Dydd San Steffan a Dydd Calan. Eleni, da ni am ddod at ein gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae Gwenno Dafydd o Gaerdydd wedi bod yn gweithio’n frwd ers blynyddoedd i drefnu gorymdeithiau a hybu digwyddiadau eraill i ddathlu Mawrth y 1af. Mae hyd yn oed wedi cyfansoddi Anthem Dydd Gŵyl Dewi – Cenwch y Clychau i Dewi (geiriau – Gwenno Dafydd, cerddoriaeth – Heulwen Thomas).

Llynedd, bu iddi drefnu digwyddiad hollol newydd ac unigryw i goffau diwrnod nawddsant Cymru. Gan fod gan Dewi Sant gysylltiad agos gyda dŵr, penderfynodd drefnu digwyddiad trochi, lle bu i grŵp o nofwyr gwyllt fentro i’r dŵr yn gwisgo penwisg cennin pedr a galw’r digwyddiad yn Dewch i Drochi Dros Dewi. Eleni, mae wedi cysylltu gyda nifer o grwpiau trochi ar draws Cymru eu mwyn eu hybu i ymuno yn yr hwyl.

‘Da ni yma’n Pesda yn edrych ymlaen at wisgo’n penwisgoedd blodeuog  a mentro i’r afon ym Mont Ogwen. Gan fod Mawrth y 1af ar ddydd Gwener a nifer yn gweithio, da ni wedi penderfynu cynnal dau ddigwyddiad:

Dydd Gwener Mawrth y 1af am 9yb – dip a phaned.

Dydd Sadwrn Mawrth yr 2ail am 10yb – dip a phaned

Dewch i ymuno yn yr hwyl os yda chi am roi eich traed yn dŵr ai peidio. Mi fysa ni wrth ein bodd yn cael criw yn ein cefnogi ar y lan hefyd a chyfle i bawb ddod at ei gilydd er mwyn ceisio cychwyn traddodiad newydd a fydd gobeithio’n tyfu i fod yn rhywbeth mwy dros y blynyddoedd i ddod. Cofiwch ddod a’ch cennin pedr a’ch dreigiau coch efo chi!

Os oes gan unrhyw un syniadau am bethau eraill i wneud yn ystod y digwyddiadau yma, cysylltwch gyda Caren Brown (07789916166 / carenelaine@hotmail.com). Mi fysa’n dda gweld hyn yn mynd o nerth i nerth yn bysa?

Mae Dewch i Drochi Dros Dewi efo tudalen Facebook – felly gallwch fynd draw i’r dudalen i ddysgu mwy am y traddodiad newydd yma. #Dewchidrochidrosdewi