Dewch am dro – Mynydd Cilgwyn

10:00, 15 Awst

WEDI’I OHIRIO OHERWYDD Y TYWYDD

Dewch am dro efo ni i ben Mynydd Cilgwyn!

Bore dydd Iau, Awst 15 am 10 o’r gloch!

Taith gerdded i deuluoedd efo gweithgareddau a snacs i blant.

Angen sgidiau cerdded da, a digon o ddŵr os ydi hi’n haul braf. Ddim yn addas ar gyfer prams.

Cyfarfod am 10yb yn sgwâr y Fron, ger yr hysbysfwrdd.

Mae trafnidiaeth am ddim ar gael i’r Fron o’r Orsaf ym Mhenygroes – hanfodol archebu lle o flaen llaw drwy e-bostio llioelenid.yrorsaf@gmail.com Cysylltwch hefyd os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.

Welwn ni chi yno!