Yn cyflwyno digwyddiad rhwydweithio cymdeithasol ar y cyd rhwng Llwyddo’n Lleol a Môn Girls Events… Ein bwriad yw ysbrydoli ‘Merched Môn’ i ddod at ei gilydd er mwyn trafod syniadau a rhwydweithio mewn awyrgylch naturiol. Bydd cyfle i wrando ar siaradwyr gwadd a chymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, heb anghofio bwyd a diod i bawb!
Dewch gyda’ch ffrindiau, cyd-weithwyr neu mae’n gyfle euraidd i gyfarfod pobl newydd – da ‘ni methu aros i weld chi!
*Taliad o £10 i gadw eich lle – y cyfraniadau ariannol yn mynd tuag at ‘Môn Girls Events’ i sicrhau cynhaliaeth o ddigwyddiadau pellach*