Diwrnod Agored – Y Sied Wehyddu

14:30, 2 Awst 2024

Am ddim

Dros y misoedd diwethaf, mae’r Sied Wehyddu wedi bod ar gau i’r cyhoedd ar gyfer gwaith cadwraeth ac adfer.

Dewch i weld drosoch eich hun rai o’r datblygiadau cyffrous y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad.

Bydd ein crefftwyr yn rhoi taith o amgylch yr adeilad ac yn rhannu eu gwybodaeth am y broses wehyddu ac am ddyfodol y Sied Gwehyddu.