Dewch i weld be sydd gan eich theatr leol i’w gynnig!
Beth i’w ddisgwyl?
🥁 Chwarae ddrymiau Affricanaidd ac Ukeleles hefo Osian Huw a Marged Gwenllïan
🎭 Gemau drama i blant hefo Ceri o Gwmni Theatr Derek Williams
🎥 Dangosiad ffilmiau byr Cymraeg ‘Cymru Drwy Lens’
👋 Cyfle i gyfarfod staff a gwirfoddolwyr y theatr a rhannu eich syniadau
⭐ Te prynhawn a thaleb sinema AM DDIM i bob ymwelydd!
I gofrestru – cysylltwch hefo ni dros ebost ar theatrderekwilliams@gmail.com