Diwrnod Genod Grymus

09:30, 26 Hydref

£39

Diwrnod i ti! Siaradwyr gwadd, cyfle i fwynhau cwmni merched eraill, rhannu profiadau, magu hunan hyder, meithrin meddylfryd positif, a gorffen gyda sesiwn hunan ymlacio dwfn.

Mae fy ngwaith fel Annogwr Personol yn hybu, annog a helpu rhywun i wneud newidiadau positif yn eu bywydau. Dod i wraidd goliau a uchelgeisiau a gweithio allan pam neu beth sydd yn rhwystro y person rhag gweithredu. Yn amal iawn mae rhwystrau fel hyder a beth rydym yn gredu/feddwl am ein hunain yn ein atal rhag symyd ‘mlaen a camu allan o gylchedd negatif. 

Mi fydd yn ddiwrnod hwyliog, anffurfiol gan roi y cyfle i ferched ddysgu sgiliau, mwynhau a ymlacio. Dewch yn llu genod!