Ydych chi’n dymuno cael yr ysbrydoliaeth i newid eich bywydau? Dyma gyfle unigryw i ferched yr ardal i gael diwrnod iddyn nhw eu hunain a derbyn ychydig o gyngor ar sut i fyw eich bywyd gorau. Ar y 26ain o Hydref bydd diwrnod llesiant, arbennig i ferched, yn cael ei gynnal yn Theatr Derek Williams yn Y Bala.