Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 yn Amgueddfa Wlân Cymru

10:30, 21 Tachwedd

Am ddim

Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2024, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cynnal diwrnod AM DDIM i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia.

Mae hyn yn rhan o Amgueddfa Cymru yn Ysbrydoli Atgofion- Gweithio dros Ddementia sy’n brosiect partneriaeth tair blynedd (2022 – 2025) gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru. Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ei nod yw defnyddio casgliadau ac adnoddau Amgueddfa Cymru i gefnogi lles pobl y mae dementia’n effeithio arnynt.

Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Rhaid archebu tocyn isod.

 Bydd y diwrnod yn cynnwys:

Taith dywys o amgylch Amgueddfa Wlân Cymru gan gynnwys arddangosiadau o’r peirianwaith hanesyddol gan ein crefftwyr

Gweithdy ffeltio gwlyb

Bydd y delynores Delyth Jenkins yn perfformio

Darperir cinio ysgafn. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol, gan e-bostio kate.evans@museumwales.ac.uk

Gallwn gynorthwyo gyda chostau cludiant.

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Wlân Cymru, gweler ein Canllawiau Mynediad Amgueddfa Wlân Cymru a Stori Weledol: Taith i Amgueddfa Wlân Cymru.