Mae Clwb Gweu’r Bala a Chlwb Gweu Llanuwchllyn ynghyd a nifer o unigolion o’r ardal wedi bod yn brysur gyda’i gwellau yn gweu degau o sgarffiau dros y chwe mis diwethaf ac wedi eu gwnïo gyda’i gilydd i greu un sgarff hir a fydd yn rhan o ddathliad gweu enfawr fydd yn cael ei gynnal dydd Gwener nesaf, y 14eg o Fehefin.
Mi fydd blynyddoedd 3-6 Ysgol Godre’r Berwyn yn ymuno gyda ni dydd Gwener i ddal y sgarff o amgylch y domen a hefyd o amgylch cae rygbi’r dref, cyn mwynhau paned a bisged fel rhan o’r dathliadau.
Ein bwriad ydyw cael drone i dynnu llun o’r awyr o’r môr o liw fydd yn rhan o’r Bala ar y diwrnod hwnnw.