Ydyn, maen nhw nôl!
Wedi i ‘Dragwyl’ llynedd werthu allan yn llwyr, mae Connie Orff a’i ffreulu (ffrindiau+teulu) lliwgar yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn eu holl gogoniant i ddathlu Drag iaith Gymraeg yn 2024.
Gyda’r dorf yn DAL i sgrechian am ragor, mae Cwîns a Chings Cymru yn dod at ei gilydd unwaith eto i ddod â deunydd newydd sbon i lwyfan Cabaret am ddigwyddiad hollol unigryw… am un noson yn unig!
Mynna dy docyn nawr a dere ymuno â Connie a’i theulu sblendigedig – ti byth yn gwybod pwy arall weli di yno…!
Cynhelir yn Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Drysau am 7.30pm. Rhan o Ffrinj Tafwyl.