drama

07:00, 13 Mehefin

£4 i oedolion a £2 i blant

Mae Pwyllgor Neuadd Llangeitho wedi trefnu perfformiad arbennig o Sioe ‘Annie Cwrt Mawr’ gan Gwmni Theatr Mewn Cymeriad i’w gynnal ar Nos Iau, Mehefin 13eg am 7yr hwyr.

Dyma ddrama un ferch yn seiliedig ar fywyd a gwaith yr ymgyrchydd heddwch, Annie Jane Hughes Griffiths.  Cafodd Annie ei magu yng Nghwrt Mawr, Llangeitho ac roedd ei theulu yn flaenllaw ym mywyd crefyddol, diwylliannol a chymdeithasol yr ardal. Yn 1924, arweiniodd Annie ddirprwyaeth o Gymru i gyflwyno Deiseb Heddwch am ‘Fyd Di-ryfel’ ag arni bron i 400,000 o lofnodion oddi wrth ferched Cymru i fenywod yr Unol Daleithiau. Daeth Annie yn llywydd ar Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac roedd yn adnabyddus am ei hareithio a’i gwaith di-flino dros heddwch ryngwladol gan roi llais i ferched. 

Mae prosiect Hawlio Heddwch sy’n rhan o Academi Heddwch Cymru yn cefnogi’r sioe fel rhan o raglen o weithgareddau ar hyd Cymru i gofio, dathlu ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o heddychwyr i wireddu amcanion y merched.

Yr actores lleol Annie Dafydd sy’n chwarae rhan Annie Hughes Griffiths ac mae ymateb da iawn wedi bod i’r sioe ar hyd y wlad. Awdur y ddrama yw Siwan Jones  a Janet Aethwy yw’r gyfarwyddwraig.

Mae tocynnau yn £4 i oedolion a £2 i blant a byddant ar gael wrth y drws neu yn siop Llangeitho. Am ymholiadau pellach, cysylltwch a post@academiheddwch.cymru.