Dydd Agored Stori Fawr Dre-fach Felindre

11:00, 29 Mehefin

Am ddim

(I gofio am gyfraniad y diweddar Olive Campden)  

Sadwrn Mehefin 29ain   11yb – 4yp,  yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

  • Arddangos cynnwys y wefan hanesyddol ar y sgrin
  • Arddangosfa o lyfrau am yr ardal a gan awduron lleol  
  • Casgliad o ffeiliau a lluniau hanesion lleol ac adnoddau eraill
  • Byrddau arddangos, lluniau a gwybodaeth am Griffith Jones

11yb  Agoriad Swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin  ac eitemau gan Blant Ysgol Penboyr.  Cyflwyno gwobrau’r cystadlaethau.

11.30yb    Crefftau i’r Plant –  Nyddu a Gwehyddu

12.00 Cyflwyniad yn Saesneg gan Peter Stopp am Griffith Jones, Llanddowror.

1.30yp     Sgwrs yn Gymraeg gan Eifion Davies ar ‘Gasgliad Towy Cole Jones’.

2.30yp    Sgwrs yn Gymraeg gan Peter Hughes Griffiths ar  ‘Ddylanwad  Teulu’r Lewisiaid  ar y Diwydiant Gwlân ac ar yr ardal’.      

Te a Choffi ar gael i bawb am ddim yn ystod y bore                                                

Noddir gan Robin Exton, Gwesty’r Hebog, Caerfyrddin

CROESO AGORED I BAWB