Cyfres o sesiynau mewn cydweithrediad â Undeb Rygbi Cymru.
Dewch i ddysgu mwy yn eich Clwb Rygbi lleol……
Bydd Clwb Rygbi Llambed yn gyfrifol am gynnal y cynta mewn cyfres o sesiynau cyfrwng Cymraeg ar nos Fercher y 25ain o Fedi.
Y thema yw Llesiant Meddyliol i’r noson gynta dan arweiniad Osian Leader. Bydd yn dechrau am 6:30yh ac mae croeso i bawb o’r gymuned.
Mae’r sesiynau yma wedi cael eu trefnu gan Undeb Rygbi Cymru a’u hariannu gan gynllun Arfor.
Dyma rhestr y gweithgareddau yn y canolbarth:
Nos Fercher, Medi 25 – noson Llesiant Meddyliol gan Osian Leader. Clwb Rygbi Llambed.
Nos Lun, Hydref 21 – noson Cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg gan Owain Williams – Clwb Rygbi Llambed.
Nos Iau, Hydref 24 – noson ar Lywodraethiant gyda Fflur Jones – Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
Nos Iau, Tachwedd 7 – noson Croesawgar yn Ieithyddol gan Nia Llywelyn, Hwyliaith- Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
Nos Wener Tachwedd 29 – noson Cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg gan Owen Williams – Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
Croeso i bawb. I gofrestru am un o’r uchod ebostiwch gderfel@wru.wales.
Bydd lluniaeth ar gael ar y noson.