Dysgwch i ddenu: Marchnata eich brand, yng nghwmni Libera
Dysgwch sut i farchnata’ch hun a’ch busnes yn effeithiol yn y sesiwn hyfforddi hon. Wedi’i deilwra ar gyfer entrepreneuriaid, gweithwyr llawrydd, a pherchnogion busnesau bach, mae’r gweithdy hwn yn darparu strategaethau defnyddiol i adeiladu brand pwerus a thyfu eich presenoldeb ar-lein. Darganfyddwch sut i greu negeseuon cymhellol, gwneud y gorau o’ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio offer marchnata digidol i gyrraedd eich cynulleidfa darged. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gryfhau’ch ymdrechion marchnata a rhwydweithio ag eraill.
Cyfle i rwydweithio yn y Gymraeg gydag unigolion yn y byd busnes. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Dyddiad: Dydd Gwener, 8fed o Dachwedd 2024
Amser: 9:30yb – 11:30yb
Lleoliad: Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn
Mae’r sesiynau yma yn cael ei ariannu drwy brosiect Llwyddo’n Lleol sy’n rhan o Raglen ARFOR. Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru drwy’r cytundeb cydweithredol a Phlaid Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Un o brosiectau Rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.