Ydych chi wedi dechrau gormod o eginblanhigion, sy’n chwilio am gartref newydd? Rydyn ni i gyd yn ei wneud ac ni allwn oddef gweld bywyd newydd yn mynd i wastraff.
Ar Dydd Sadwrn 25ain Mai, 10-12, bydd Yr Ardd yn cynnal cyfnewidiad planhigion.
Dewch â’ch planhigion dros ben gyda chi a’u cyfnewid gyda’ch cymdogion a’ch ffrindiau yn y gymuned.
Te, coffi a chacen ar gael hefyd, felly dewch lawr i ddweud helo.
Os ydych yn teithio mewn car, mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar y safle i bobl â phroblemau symudedd. Felly parciwch lawr yn The Llandysul Paddlers, Wilkes Head Square, Pontwelly, Llandysul SA44 4AA.