Ymunwch â ni yn eisteddfod flynyddol Capel y Groes am wledd o lefaru, canu, llên a chelf.
Bydd y cystadlu yn yr adran gyfyngedig yn dechrau am 1:30 y.p. a seremoni’r cadeirio tua 7:30 y.h. Bydd bwyd blasus hefyd ar gael yn y festri.
Mae croeso cynnes i bawb, i gystadlu neu i gefnogi.
Ewch i dudalen Facebook Capel y Groes am fwy o wybodaeth.