Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig?
Pa ffordd well o ddechrau 2024 na thrwy encil undydd i ganolbwyntio ar hunan-les?
Cynhelir encil undydd ar 13 Ionawr 2024, yng nghwmni Anwen Davies, Leisa Mererid a Ceri Lloyd.
Byddwch yn mwynhau cinio maethlon ynghyd â sesiynau ioga, adweitheg hunan-ofal a chyngor maetheg – edrychwch ar yr amserlen lawn yma.
Pris: £48.00
Prynwch eich tocyn drwy gysylltu’n uniongyrchol â ni (post@lletyarall.org / 07721 497283) yma a gallwn anfon tocyn anrheg dros ebost.