Un o rasys 10K mwyaf heriol Gogledd Cymru.
Cofrestru
Mae cofrestru’n dechrau am 5.45pm ar Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli. Mae rhifau’n cael eu rhoi ar y noson o’r man cofrestru. Bydd y ras yn cychwyn yn brydlon am 7.15pm.
Oedran
Rhaid i bob rhedwr fod dros 15 ar ddiwrnod y ras.
Y ras ei hun
Mae’r ras yn dechrau ac yn gorffen ar Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli, a bydd y lleoliadau wedi’u nodi’n glir. Mae’r tir dan draed yn ystod y ras yn amrywio’n sylweddol.
Amseru
Bydd y ras yn cael ei hamseru’n electronig gan TDL.
Noddwyr
Diolch i Garej ELIM, Llangefni am eu cefnogaeth barhaus a hefyd i Crib Coch, Llanberis am noddi’r gwobrau.